Dyma wiki newydd Adran Ffrangeg Ysgol Dyffryn Teifi. Byddwn yn ychwanegu gemau, cyflwyniadau, dolenni, fideos, ac unrhywbeth arall gall eich diddori neu eich cynorthwyo wrth ddysgu Ffrangeg yma.
Sut i ddefnyddio'r wiki yma...
Bydd rhai pethau sy'n siwtio pawb yn cael eu gosod ar y dudalen hafan (fan hyn!) ond mi fydd pethau eraill yn cael eu rhoi ar y tudalennau ar gyfer y flwyddyn gywir (edrychwch yn y golofn ar y chwith). Cliciwch ar y dudalen sydd ar gyfer eich blwyddyn chi ac mi welwch chi bethau yno a fydd yn briodol i chi. Gobeithio y byddwch yn gweld y wiki yma yn ddefnyddiol ac os oes gennych unrhyw awgrymiadau, cofiwch adael i'ch athrawes wybod! :-)
Linguascope
Dyma'r ddolen ar gyfer cael mynediad i safle Linguascope. Cofiwch fod angen yr Enw Defnyddiwr a'r Cyfrinair a roddodd eich athrawes i chi. Mae Linguascope yn ffordd hwylus o ddysgu Ffrangeg felly cofiwch ymweld â'r safle pob hyn a hyn i chwarae'r gemau! http://www.linguascope.com/
Bienvenue! Croeso!
Dyma wiki newydd Adran Ffrangeg Ysgol Dyffryn Teifi. Byddwn yn ychwanegu gemau, cyflwyniadau, dolenni, fideos, ac unrhywbeth arall gall eich diddori neu eich cynorthwyo wrth ddysgu Ffrangeg yma.Sut i ddefnyddio'r wiki yma...
Bydd rhai pethau sy'n siwtio pawb yn cael eu gosod ar y dudalen hafan (fan hyn!) ond mi fydd pethau eraill yn cael eu rhoi ar y tudalennau ar gyfer y flwyddyn gywir (edrychwch yn y golofn ar y chwith). Cliciwch ar y dudalen sydd ar gyfer eich blwyddyn chi ac mi welwch chi bethau yno a fydd yn briodol i chi. Gobeithio y byddwch yn gweld y wiki yma yn ddefnyddiol ac os oes gennych unrhyw awgrymiadau, cofiwch adael i'ch athrawes wybod! :-)Linguascope
Dyma'r ddolen ar gyfer cael mynediad i safle Linguascope. Cofiwch fod angen yr Enw Defnyddiwr a'r Cyfrinair a roddodd eich athrawes i chi. Mae Linguascope yn ffordd hwylus o ddysgu Ffrangeg felly cofiwch ymweld â'r safle pob hyn a hyn i chwarae'r gemau!http://www.linguascope.com/